Senedd Cymru
Y Grŵp Trawsbleidiol ar STEMM
Cyfarfod am 18:00, dydd Mawrth 20 Medi, ar Zoom
Nodiadau i’r Cadeirydd
Yn bresennol: Leigh Jeffes, Niall Sommerville, Abi Phillips, Ann Denning, Mike Charlton, Dave (Y Gymdeithas Ddaearegol), Cerian Angharad, Mark Isherwood AS, Dayna Mason, Wendy Sadler, Geertje van Keulen, Richard Duffy, Tom Addison, Joel James AS, Helen Taylor, Eluned Parrott, Mike Edmunds, Lee Gonzalez, Rhobert Lewis, Henry Lovett, Robert Hoyle, David Cunnah.
1) Croeso
Dylech groesawu’r Aelodau i’r cyfarfod. Sylwer bod dau newid i'r agenda, yn gyntaf, oherwydd cyfyngiadau amser byddwn yn dechrau gydag Abi Phillips yn trafod y strategaeth arloesi. Yna, bydd cyfle i holi cwestiynau cyn iddi adael am 6.30pm. Yna, cawn glywed gan Richard Duffy o'r Sefydliad Ffiseg. Yr ail newid yw cynnal cyfarfod blynyddol cyffredinol byr iawn i ail-ethol ein Cadeirydd, Is-gadeiryddion ac Ysgrifenyddiaeth ar ôl yr eitem ar y strategaeth arloesi. Roedd hwn wedi cael ei hepgor o’r agenda.
2) Strategaeth Arloesi (40 munud)
Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar ei strategaeth arloesi newydd ac yn hynny o beth, rydym yn falch iawn o groesawu Abi Phillips, Pennaeth Arloesi, Llywodraeth Cymru, i siarad am y gwaith sy’n mynd rhagddo wrth i ni nesáu at ddyddiad cau’r ymgynghoriad yr wythnos nesaf.
Yn dilyn y sgwrs fer gofynnwch am gwestiynau gan y gynulleidfa. Mae angen i Abi adael am 6.30pm.
Ein siaradwr nesaf ar y pwnc hwn yw Richard Duffy, Rheolwr Polisi, y Sefydliad Ffiseg.
Mae cwestiynau ar amrywiaeth o bynciau yn cynnwys menter gymdeithasol, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, cymunedau, mesur llwyddiant.
Abi i anfon linc i’r gwaith modelu rhesymeg at Niall i’w gylchredeg.
CAM GWEITHREDU: Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg ynghylch ymgysylltu myfyrwyr benywaidd ôl 16 â ffiseg – cwymp mawr mewn ffigurau. Siarad â Richard ynghylch y ffigurau.
Mae angen ystod o gwestiynau ar gyflenwad athrawon.
3) Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (5 munud)
Trosglwyddo i Niall i ethol Cadeirydd. Ar ôl ail-ethol bydd y gadeiryddiaeth yn cael ei throsglwyddo’n ôl i David i ethol Jack Sargeant a Mark Isherwood yn Is-gadeiryddion a'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol/Niall Sommerville fel Ysgrifenyddiaeth. Mae croeso i eraill enwebu!
Pawb wedi’u hail-ethol drwy ganiatâd
Geertje a Helen yn cynnig ac eilio NS/y Gymdeithas Gemeg Frenhinol i ymgymryd â gwaith yr ysgrifenyddiaeth
4) Ymddiheuriadau am absenoldeb
Trosglwyddo i Niall
Ymddiheuriadau gan Ian Wells, Faron Muller, Jack Sargeant AS, David Rees AS
5) Cofnodion y cyfarfod blaenorol a materion yn codi (2 funud)
Cynigwyd ac eiliwyd gan Richard a Geertje
Mae’r cofnodion wedi cael eu dosbarthu. Yr unig fater sy’n codi yw ystyried y posibilrwydd o gynnal cyfarfod grŵp trawsbleidiol ar y cyd ar draws y gwledydd datganoledig. Trosglwyddo i Niall am y newyddion diweddaraf.
6) Cyfraniad addysg a hyfforddiant ffisioleg i'r gweithlu yng Nghymru (10 munud)
Trosglwyddo i Tom Addison, y Gymdeithas Ffisiolegol i drafod y daflen ffeithiau ddiweddar a gynhyrchwyd gan y Gymdeithas Ffisiolegol.
7) Diweddariad gan Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth Cymru (5 munud)
Bydd Robert Hoyle ar gael i roi diweddariad byr ar waith Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth Cymru
Diweddariad ar recriwtio Prif Gynghorydd Gwyddonol; Rhestr hir o 9; rhestr fer o 5 ymgeisydd; dewis ar gyfer cyfweliad ym mis Hydref. Gobeithio cael cynghorydd gwyddonol newydd rhwng mis Ionawr a mis Mehefin y flwyddyn nesaf.
8) Diweddariadau gan gyrff proffesiynol (5 munud)
Gan fod yr agenda yn eithaf llawn gofynnwch am anfon diweddariadau ysgrifenedig at Niall i’w cylchredeg ar ôl y cyfarfod, oni bai bod amser yn caniatáu diweddariadau llafar.
9) Unrhyw fater arall
Gwyddoniaeth a’r Senedd 23 Mai'r flwyddyn nesaf
10) Cloi'r cyfarfod
Gan Wendy Sadler i Bawb 06:11 PM
A oes unrhyw ystyriaeth i arloesi yn y sector mentrau cymdeithasol? Fel menter gymdeithasol rydym ni'n gweld yn aml nad ydym ni'n cystadlu oherwydd nid y llinell waelod yw'r hyn sy'n gyrru ein cenhadaeth.
Gan Abi Phillips i Bawb 06:12 PM
abigail.phillips@llyw.cymru
Gan Dr Geertje van Keulen i Bawb 06:16 PM
Roedd gweithgareddau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi/yn cael eu tracio ar gyfer prosiectau Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Ym mha ffordd fydd hyn yn wahanol?
Gan Tom Addison – Y Gymdeithas Ffiseg i Bawb 06:17 PM
A allwch ein hatgoffa o'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r ymgynghoriad?
Gan Abi Phillips i Bawb 06:18 PM
Dyddiad cau 28/09/2022
Gan Mike Charlton i Bawb 06:46 PM
Ffiseg hirdymor sydd wedi trawsnewid y byd? Perthnasedd a ffiseg cwantwm. Mae'r dyfeisiau rydych chi'n eu defnyddio i lywio'r byd yn dibynnu ar y ddau. Doedd neb yn gwybod hynny pan oedden nhw'n ymchwilio i'r meysydd sylfaenol hyn ar y pryd.
Gan Joel James i fi (Neges Uniongyrchol) 06:53 PM
Helo Niall, sori am hyn, ond mae'n rhaid i mi adael – mae wedi bod yn ddiddorol iawn
Fi i Mark Isherwood (Neges Uniongyrchol) 06:55 PM
Mark, pe gallech ddirwyn yr adran hon i ben ar ôl y cwestiynau hyn byddai hynny’n ddefnyddiol gan fod gennym ychydig o bwyntiau eraill ar yr agenda sydd angen eu trafod
Gan Dr Geertje van Keulen i Bawb 06:57 PM
Dylid mynd i'r afael â chadw athrawon hefyd. Mae gymaint ohonynt yn gadael addysgu oherwydd llwyth gwaith a materion eraill
Gan Eluned Parrott i mi (Neges Uniongyrchol) 06:57 PM
Hapus i helpu i lunio llythyr.
Fi i Eluned Parrott (Neges Uniongyrchol) 06:58 PM
Os gwelwch yn dda!
Gan Wendy Sadler i Mi (Neges Uniongyrchol) 06:59 PM
Helo Niall - os ydym yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud i annog merched i STEM bydd y gweinidog Addysg yn siarad am waith y grŵp Cydraddoldeb mewn STEM yn y maes hwnnw. Rwy'n meddwl efallai bydd angen i’r llythyr fod â ffocws mawr ar holi beth sy'n cael ei wneud i helpu annog athrawon ffiseg i astudio ac aros yng Nghymru (pan gânt eu cymell i fynd i Loegr) - hapus i helpu gydag Eluned i ddrafftio os yw hynny’n ddefnyddiol.
Gan Eluned Parrott i mi (Neges Uniongyrchol) 06:59 PM
Hoffwn roi’r bai ar Mike o ran y Seryddwyr....
Fi i Eluned Parrott (Neges Uniongyrchol) 07:01 PM
Haha!
Fi i Wendy Sadler (Neges Uniongyrchol) 07:02 PM
Ydych chi’n hapus i mi anfon e-bost atoch chi ac Eluned yn ddiweddarach er mwyn dechrau llunio'r llythyr?
Gan Dayna Mason i mi (Neges Uniongyrchol) 07:05 PM
Am wybodaeth yn ymwneud â’r cyflenwad athrawon ar gyfer 2022-2023:
Grant pwnc blaenoriaeth addysg gychwynnol athrawon (yn cynnwys cemeg/ffiseg/bioleg) = £15,000
https://www.llyw.cymru/cymhelliant-addysg-gychwynnol-athrawon-ar-gyfer-pynciau-blaenoriaeth-canllawiau-i-fyfyrwyr-2022-i?_ga=2.78428500.1392334061.1679039941-715216221.1677226016&_gl=1*o8vwy2*_ga*NzE1MjE2MjIxLjE2NzcyMjYwMTY.*_ga_L1471V4N02*MTY3OTAzOTk0MC41LjEuMTY3OTA0MTgyMS4wLjAuMA..
Bwrsariaethau ôl-raddedig Lloegr:
Cemeg/ffiseg = £24,000 (mae ysgoloriaethau gwerth £26,000 ar gael hefyd)
https://getintoteaching.education.gov.uk/funding-and-support/scholarships-and-bursaries
Fi i Dayna Mason (Neges Uniongyrchol) 07:05 PM
Diolch
Gan Wendy Sadler i fi (Neges Uniongyrchol) 07:08 PM
Ie - Dylai Cerian fod yn rhan o'r broses hefyd gan mai hi sydd agosaf at y sefyllfa bresennol
Fi i Wendy Sadler (Neges Uniongyrchol) 07:09 PM
Grêt, anfonaf e-bost at y tri ohonoch chi
Gan DENNING_A i Bawb 07:14 PM
Ymddiheuriadau i bawb ond mae arnaf ofn fod gennyf apwyntiad i gasglu’r wyrion am 7.30 ac rwy’n gorfod gadael. Diolch am sesiwn llawn gwybodaeth
Gan David Cunnah - Innovate UK UKRI i bawb 07:16 PM
david.cunnah@iuk.ukri.org
Gan Dr Geertje van Keulen i Bawb 07:19 PM
Gwahoddiad i dimau allgymorth: Yn ddiweddar, fe dreialon ni ŵyl wyddoniaeth fach ym Mhen-y-bont ar Ogwr mewn ‘Diwrnod Hwyl’ lleol. Rwyf nawr yn gofyn am bobl sy’n frwd dros waith allgymorth ar draws y pynciau STEMM i gysylltu â mi yn g.van.keulen@swansea.ac.uk neu @DrGvanK Twitter i fynegi diddordeb i gymryd rhan neu gael eu diweddaru ar gynlluniau ar gyfer 2023. Cynhelir y 'Diwrnod Hwyl' nesaf ddydd Sadwrn 2 Medi 2023
Gan Eluned Parrott i bawb 07:21 PM
Diolch Geertje - cofrestrwch ni yn Sefydliad Ffiseg.
eluned.parrott@iop.org becky.holmes@iop.org a stephanie.bevan@iop.org
Gan Lee Gonzalez i mi (Neges Uniongyrchol) 07:26 PM
Siaradwn yn fuan